SL(6)152 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 ("y Rheoliadau") yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 64(1), 64(2)(b), 66, 69 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("Deddf 2014").

Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Gosod Ffioedd”) a Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Asesiad Ariannol”).

Mae'r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn llywodraethu awdurdodau lleol wrth gyflawni eu disgresiwn i osod ffi, cyfraniad neu ad-daliad o dan Ran 4 (diwallu anghenion) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf 2014. Mae’r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn nodi’r dull y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei ddefnyddio i gynnal asesiad o adnoddau ariannol person er mwyn pennu ffi pan fo hynny’n briodol. Daeth y ddwy gyfres o reoliadau i rym ar 6 Ebrill 2016.

Bydd y newidiadau sy’n diwygio’r Rheoliadau Gosod Ffioedd yn codi lefel yr isafswm incwm a gymhwysir wrth osod ffi am ofal preswyl o £33.00 yr wythnos i £35.00, neu wrth bennu cyfraniad neu ad-daliad am daliadau uniongyrchol i sicrhau gofal preswyl, drwy ddiwygio rheoliadau 13 a 28. Yr isafswm incwm yw swm yr arian y mae person mewn gofal preswyl, ac sy'n cael ei gefnogi'n ariannol gan ei awdurdod lleol, yn gallu cadw o'i incwm wythnosol i'w wario ar eitemau personol yn ôl ei ddewis. Caiff y swm ei adolygu'n flynyddol yng ngoleuni'r codiadau wythnosol a gymhwysir i bensiynau a budd-daliadau lles y DU.

Bydd y newidiadau sy'n diwygio'r Rheoliadau Asesiad Ariannol yn cydnabod nifer o gynlluniau iawndal a ddyfernir i bobl sydd wedi cael eu niweidio, eu cam-drin, neu eu hanafu ac sydd i dderbyn taliadau i gydnabod eu dioddefaint. Mae cynlluniau fel arfer yn ddarnau newydd o ddeddfwriaeth a gyflwynir gan lywodraethau eraill y DU, neu gan Lywodraeth Cymru. Cyflawnir hyn drwy ddiwygio Atodlen 1 ac Atodlen 2 i'r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys taliadau a wneir o dan:

·         Ddeddf Camdriniaeth Sefydliadol Hanesyddol (Gogledd Iwerddon) 2019;

·         Deddf Darparu Iawn i Oroeswyr (Camdriniaeth Hanesyddol Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021;

·         Rheoliadau Taliadau Dioddefwyr 2020; a

·         Thaliadau a wneir o dan y cynllun taliadau ar gyfer cyn-blant mudol Prydeinig a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.  

Yn ogystal, mae nifer o gynlluniau iawndal gwaed heintiedig a chynhyrchion gwaed heintiedig a gymhwysir i berson sydd wedi’i heintio gan gynhyrchion gwaed heintiedig y mae angen eu cydnabod o dan Atodlen 1 ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol. Mae cynllun cymorth gwaed heintiedig cymeradwy a Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban eisoes yn cael eu cydnabod o dan Atodlen 1 ac Atodlen 2. Mae Rheoliadau 2022 yn diwygio'r Rheoliadau Asesiad Ariannol i gynnwys y canlynol hefyd:

·         Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru; a

·         Chynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Gogledd Iwerddon.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.

Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(i) – ei bod yn ymddangos bod amheuaeth a yw intra vires

Mae'r rhagair i'r Rheoliad yn nodi pwerau galluogi Deddf 2014 y mae Gweinidogion Cymru yn dibynnu arnynt. Fodd bynnag, nid yw'n glir pam mae adran 64(2)(b) wedi'i chynnwys yn benodol, ond nid 64(2)(a). Mae'r ddarpariaeth flaenorol yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau sy'n ymdrin ag asesiadau ariannol wneud darpariaeth ar gyfer asesu cyfalaf, a'r olaf ar gyfer asesu incwm. Nodir bod rheoliad 3(a) o'r Rheoliadau yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm) i'r Rheoliadau Asesiad Ariannol mewn perthynas ag incwm sydd i'w ddiystyru wrth gynnal asesiad ariannol. Oherwydd hyn, nid yw'n glir pam nad yw rheoliad 64(2)(a) hefyd yn cael ei ddyfynnu fel pŵer galluogi, ac a yw ei absenoldeb yn effeithio ar vires yn hyn o beth.

At hynny, mae'r Memorandwm Esboniadol, ym mharagraff 3, yn honni ei fod yn dyfynnu'r pwerau galluogi yn y Rheoliadau. Er bod rhai wedi'u hepgor, mae hefyd yn cynnwys adran 65 o Ddeddf 2014, nad yw’n cael ei dyfynnu yn y Rheoliadau. Mae'r gwahaniaeth hwn rhwng y Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol, ynddo'i hun, o bosibl yn ddryslyd i'r dinesydd. Ond, ymhellach, mae Adran 65 yn bŵer penodol i ddatgymhwyso'r ddyletswydd i gynnal asesiad ariannol. Oherwydd hyn, nid yw’n glir pam nad yw’r pŵer galluogi hwn wedi’i gynnwys yn y Rheoliadau, a pha effaith y gallai hyn ei chael ar vires, o gofio’r newidiadau a wnaed i’r Rheoliadau Asesiad Ariannol o ran diystyru taliadau o dan y cynlluniau iawndal penodedig wrth gynnal asesiad ariannol.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2. Rheol Sefydlog 21.3 (i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Nodir, yn ôl yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, y bydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau yn arwain at gynnydd posibl mewn incwm taliadau i awdurdodau lleol yn y swm o £1.9 miliwn y flwyddyn.

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodir nad yw'r Memorandwm Esboniadol wedi'i osod yn Gymraeg. Mae'r ffurflen Hysbysiad o Osod berthnasol yn nodi, “This document is laid in English only, in accordance with Standing Order 15.4, as it is not considered appropriate in the circumstances or reasonably practicable to lay it in English and Welsh.” Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eglurhad ar y rheswm hwn, yn enwedig o ran ai’r rheswm dros beidio â chynhyrchu fersiwn ddwyieithog oedd diffyg adnoddau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Chwefror 2022